SchoolNet Global Wales
Croeso i SchoolNet Global
Cychwynodd prosiect SchoolNet Global Byd-Eang yn 1998 ym Mhrydain. Ers hynny mae dros hanner miliwn o bobl ifainc, rhwng 4 a 18 oed, wedi ymaelodi. Mae nifer fawr wedi cofnodi eu teimladau a’u meddyliau am fywyd yn yr 21ain Ganrif, ar dros 55.000 o dudalennau’r We. Sgrifennwyd am eu bywydau, cartrefu, diddordebau, syniadau gwyllt, gobeithion a breuddwydion, ac ar sut maent am wneud y byd yn well.

Mae ein myfyrwyr ac athrawon wedi creu we fan cyfraniadol plant mwya’r byd, ac mae’n dal i dyfu.

Dyma wahoddiad i chi
Mae gennym, eisoes, aelodau mewn dros 20 o wledydd sydd eisiau i’w plant gyfrannu at y prosiect ac mae gwahoddiad agored i athrawon o bedwar ban byd i ymuno gyda ni nawr. Gadewch i’ch plant gyfrannu tuag at adeiladu dealldwriaeth rhwng ein diwylliannau.

Gall eich plant gyfrannu tudalennau yn y Gymraeg, ac yn Saesneg, fel bod cyfle iddynt gyfathrebu gyda plant a phobl ifainc yn lleol a ledled y byd.

Mae SchoolNet Global Amlieithog yn dod
Mae’r we fan yn Saesneg ar hyn o bryd ac yn adnawdd gwerthfawr ar gyfer dysgu Saesneg fel ail iaith. Eleni, bwriadwn gyfieithu’r safle i ieithoedd ein haelodau.